Salwch Anweladwy
Mae tyfu i fyny gyda salwch sydd yn anweladwy yn uffern. Cychwynnodd yr holl beth cwpl o flynyddoedd yn ôl pan gefais fy rhuthro i mewn i Ysbyty Plant Lerpwl, Alder Hey, a chael diagnosis o Golitis Briwiol (Ulcerative Colitis). Mae'r cyflwr, sydd ddim yn gyfarwydd i'r mwyafrif, yn gyflwr sydd heb symptomau gweledol. Dyna'r broblem ti'n gweld, 'dim symptomau gweledol'.
Pan na allaf fynychu'r ysgol oherwydd y salwch dwi'n aml yn cael sylwadau fel "Ti'n edrych yn iawn…" a "dydy o ddim yn edrych fel bod dim o'i le efo ti".
Wel, mewn gwirionedd – mae yna!
Mae'r boen dwi'n teimlo wrth geisio profi fy salwch yn ofnadwy. Mae gorfod ailadrodd y geiriau "Dwi yn sâl, ond ti ddim yn ei weld" yn mynd yn wirion. Mae hyd yn oed athrawon yn gwgu arnaf am fynd adref o'r ysgol, ac maent yn tueddu dweud "wel, roeddet ti'n edrych yn iawn bore 'ma."
Mae ymdopi gyda salwch anwelladwy yn ddigon anodd heb orfod byw pob dydd yn ceisio profi i bobl fy mod i yn dioddef o ddifri.
Mae'n wir i unrhyw un sydd yn dioddef o salwch/cyflwr sydd yn anweladwy. Mae rhai o'r rhain yn cynnwys Crohn, Cancr,Iselder, Colitis Briwiol… mae'r rhestr yn ddiddiwedd.
Felly, y tro nesaf ti'n barnu rhywun am fod yn sâl, meddylia pa salwch sydd yn anweledig.
Dydy dioddefaint ddim yn weladwy bob tro.
DELWEDD: Kalexanderson








1 Comment – Post a comment
CLICryan
Commented 4 months ago - 10th January 2012 - 13:14pm
Da iawn chi - very brave article and hopefully others will be able to relate and seek advice if they are experiencing similar issues.