Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Statws Hunanladdiad Facebook

Posted by Miss_Survivoroxoxo from Monmouthshire - Published on 20/04/2012 at 10:36
0 comments » - Tagged as Health, People

  • help

English version

Mae llawer o bobl dros y byd yn defnyddio Facebook. Ond mae rhai pobl yn cymryd y cwestiwn statws "Beth sydd ar dy feddwl di?" ychydig yn rhy ddifrifol.

Mae statws Facebook wedi dod yn ffordd o fynegi teimladau. Mae rhai pobl yn chwilio am sylw trwy ysgrifennu rhywbeth fel, "Dwi eisiau rhoi diwedd ar fy mywyd." Ond sut gallwn ni fod yn sicr mai chwilio am sylw maen nhw ac nid o ddifrif?

Yn anffodus, mae yna lawer o hunan laddiadau ble mae pobl wedi cynnwys Facebook ar gyfer llythyrau hunanladdiad a geiriau diwethaf. Cymaint i ddweud y gwir, fel bod y bobl tu ôl i Facebook wedi gweld hyn ac wedi gwneud rhywbeth am y peth.

Mae Facebook wedi cyflwyno gwasanaeth sydd yn gadael i ddefnyddwyr adrodd ffrindiau sydd wedi postio cynnwys hunanladdol ar eu tudalen. Mae'r Ffurflen Adrodd Cynnwys Hunanladdol yn gofyn am enw Facebook y defnyddiwr, yr URL i'r cynnwys ar eu tudalen ac am unrhyw fanylion arall. Bydd gweinyddwr Facebook wedyn yn adolygu'r adroddiad ac yn gweithredu beth allent o'u hochr nhw.

Mae'n bwysig iawn fod ti'n adrodd unrhyw gynnwys ti'n gweld ar Facebook sydd yn ymwneud â hunanladdiad, hyd yn oed os wyt ti'n meddwl mai chwilio am sylw maen nhw, efallai nad dyma'r achos ac fe ddylet ti wneud beth allet ti.

Dwi ddim wedi gweld hyn ar Facebook eto, gan fod cyfrif fi ddim yn gweithio fel y dylai ar y funud, ond wyt ti wedi'i weld? Beth wyt ti'n feddwl o'r syniad? Gad sylwad isod a dweud wrthyf beth ti'n feddwl, efallai?

Tudalennau Iechyd Emosiynol a Meddyliol

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.