Stereoteipiau Ar Eu Gorau
English version
Dyma oedd fy mhrofiad cyntaf o deithio dramor a dewisais gymryd rhan yn y daith ysgol i Ganada yn ystod hanner tymor Pasg.
Doeddwn i erioed wedi aros i ffwrdd oddi wrth fy nheulu heblaw am mewn t? ffrind am noson, a hyd yn oed wedyn roeddwn i'n nerfus.
Dywedais wrth fy nheulu fy mod wedi arwyddo i fyny am y trip a syllant mewn anghrediniaeth.
"Gwna'n si?r dy fod di'n gwneud nodyn o'r holl weithwyr ar yr awyren," meddai fy mrawd Arwel yn ddifrifol. "Gwna'n si?r bod nhw'n Brydeinig!"
Pasiodd y misoedd a daeth mam yn fwy a mwy pryderus gan feddwl am ei ieuengaf oedd hefyd efo arholiadau agos. Roeddwn wedi troi'n feudwyaidd a'r unig beth oedd ar fy rhestr 'i wneud' oedd adolygu.
Roedd hi'n fore fy antur gyntaf, roeddwn yn nerfus, a sylwadau fy mrawd oedd yr unig beth roeddwn i'n canolbwyntio arno.
"Fe ddylwn i fod yn gyffrous, nid yn poeni am hil staff yr orsaf awyr," meddyliais i fi fy hun.
Dywedodd dad hwyl fawr ac roeddwn i'n poeni am feddwl am hedfan. Ar ôl noson o gwsg cyrhaeddom yr orsaf awyr. Fi oedd yr unig un oedd ddim wedi hedfan. Camais ar yr awyren. Eisteddais yn fy sedd yn sydyn a dechrau sganio'r awyren.
Dechreuais banicio. Ble oedd y stiwardiai? Ble oedd y marched gweini? Ac yn fwy pwysig, ble oedd yr holl siaradwyr Saesneg?
Roeddwn yn goranadlu, ond fe welais ferch gweini oedd yn siarad Saesneg. Gallwn anadlu yn iawn eto. Yn hapus gyda'r daith esmwyth cyrhaeddom yng Nghanada. Roedd yr ysgol roeddem yn ymweld ag ef yn cael noson elusennol ac aethom i gyd yno. Ar ôl cyfarfod y teuluoedd gwesteiwyr cychwynnodd y cyngerdd.
Roedd yn 2yb yn Prydain ac roedd fy ffrind yn dechrau blino. Roedd fy ffrind yn syrthio i gysgu yng nghanol y drymiau Affricanaidd, cerddoriaeth uchel a chyflwyniadau. Dwi dal yn teimlo'r cywilydd, roedd hi wedi cysgu trwy'r perfformiad cyfan yn anwybodol o'r llygaid yn syllu arni. Gorffennodd y perfformiad a chefais drafferth ei deffro, dwi'n casáu meddwl beth oedd ein hargraff gyntaf ar bobl. Yn lwcus, roedd ein teulu gwestai yn hyfryd ac yn deall y gwahaniaeth amser.
Roedd y profiad gwyliau yn wych, ac rydym yn parhau i gadw mewn cysylltiad. Dwi wedi cael chwant teithio nawr, ond dwi'n meddwl byddaf yn cadw at drafnidiaeth ar y llawr.
DELWEDDAU: JasonDGreat / hazelisles








