Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Sut Newidiodd CLIC & Swoosh Fy Mywyd

Posted by thepurpleninja from Vale Of Glamorgan - Published on 05/12/2011 at 12:07
0 comments » - Tagged as Art, Climate, Comedy, Creative Writing, Culture, Dance, Education, Environment, Fashion, Festivals, Food & Drink, Health, History, Movies, Music, People, School Holiday Activities, Stage, Sport & Leisure, Technology, Topical, Travel, Work & Training, Volunteering, Drugs, Alcohol

  • resi
  • swoosh

English version

Reit, dwi'n gwybod fod y mwyafrif o bobl ddim eisiau darllen hwn, ond creda fi, mae'n werth darllen.

Dim ond 2 ydw i ond ers i mi ymuno gyda CLIC a Swoosh mae fy mywyd i wedi newid cymaint.

Dwi am gychwyn trwy ddweud wrthyt ti sut mae Swoosh wedi newid fy mywyd.

Ymunais gyda Swoosh ar ôl clywed amdano trwy fy Fforwm Ieuenctid. Fe es i gyfarfod gyda fy chwaer fawr. Roedd o'n hwyl fawr (ac nid oherwydd y pitsa am ddim!). Ymunais â CLIC hefyd drwy Swoosh (ond fe ddywedaf fwy am hynny wedyn).

Dwi wedi cyfarfod pobl o ar draws y Fro (gan gynnwys pobl yn fy ysgol). Mae'n rhaid bod yn 11 i ymuno, pam ti rhwng 11 a 25 ti'n cael dy gysidro fel person ifanc. Dwi’n mwynhau mynd i'r cyfarfodydd a chael llawer o hwyl.

Yn ein cyfarfod diwethaf cyfarfûm â Phencampwr Ieuenctid newydd Y Fro, Richard Bertin (gwelais ef eto heddiw, yn gyrru bws). Dywedodd wrthym am rai o'r pethau oedd yn cael eu cynllunio yn y Fro, gan gynnwys sinema. Byddwn i yn gwadd unrhyw un i ddod draw, gan ei fod yn hwyl fawr ac yn beth anhygoel i fod yn rhan ohono.

Ymunais gyda CLIC hefyd trwy Swoosh (CLIC ydy gwefan ieuenctid Cymru gyfan). Bob hyn a hyn mae llawer o bobl ar draws Cymru yn cyfarfod ar benwythnosau preswyl ac yn cael llawer o hwyl, ond rydym hefyd yn gwneud pethau pwysig. Rydym yn siarad am beth sydd yn digwydd i bobl ifanc yn ein hardal a phethau fel hynny.

Diolch i CLIC mae gen i ffrindiau ar draws Cymru, ac er bod pawb yn h?n na fi (o lawer o flynyddoedd) maent wedi derbyn fi i mewn i'w gr?p o bobl ifanc. Ar y preswyl cyntaf es iddo ym Mae Caerdydd, fe gefais yn orfywiog IAWN ar ddiod ffrwythau!

Fe wnes ychydig o ffilmiau zombie (edrycha ar y fideo ar yr ochr) oedd yn hwyl fawr i wneud (diolch i staff ANHYGOEL CLIC). Dwi'n meddwl fod y fideo ar y wefan CLIC hefyd. Byddwn yn gwadd pobl i ymuno gyda CLIC hefyd (ond mae'n rhaid i ti gael dy ffurflen penwythnos preswyl i mewn yn fuan gan fod llefydd yn mynd yn sydyn IAWN).

Byddwn yn cychwyn trwy ymuno gyda dy griw CLIC lleol (ee. Caerdydd – the Sprout, Bro Morgannwg – Swoosh, Casnewydd – Young Newport ac ati).

Mae CLIC a Swoosh wedi newid fy mywyd am y gorau, ac os wyt ti eisiau ymuno, dwi'n gobeithio bydd CLIC a dy griw CLIC lleol yn newid un ti hefyd.

Os wyt ti eisiau ymuno gyda CLIC dilyna'r ddolen yma ac os wyt ti eisiau ymuno yn y Criw Golygyddol Swoosh tyrd i'r ochr porffor, edrycha ar y ddolen hon a chysyllta â’r Golygydd, Dominique LeSeauteur ar Dominique@swoosh.me.uk neu ffonio 01446 733622 (estyniad, 14).

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.