Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Taith Urdd Mon i Gatalunya, Sbaen a Barcelona

Posted by erylwilliams from Anglesey - Published on 17/09/2009 at 00:00
0 comments » - Tagged as Culture, Travel

Fis Gorffennaf eleni, bu rhai o aelodau Bl 9 a 10 yr Urdd yn ymweld â Chatalunya, Sbaen a Barcelona. 

Bu digonedd o haul a hwyl yn ystod y daith a chafwyd nifer o brofiadau bythgofiadwy megis trip i Port Aventura, Water World a Nou Camp, a chafwyd cyfle i fynd o amgylch dinas Barcelona i weld amryw o adeiladau anhygoel, hanesyddol. 

Cafwyd ambell i dro trwstan yn ystod y daith ond da oedd gweld nad oedd y digwyddiadau hyn wedi effeithio ar frwdfrydedd y bobl ifanc a naws hwyliog y daith. 

Diolch i bawb a fynychodd, yn blant, staff a gyrrwyr y bws. 

Fe brofodd y daith i fod yn brofiad anhygoel, ac yn gyfle gwych i’r criw o bobl ifanc gael blas ar fywyd a diwylliant gwlad wahanol, yn ogystal â chymdeithasu a dod i wneud ffrindiau newydd.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.