Urdd Yn Troi'n 90
Mistar Urdd. Y dyn gwyrdd, coch a gwyn.
Meddylia am ystyr y geiriau 'Urdd Gobaith Cymru', mae'n swnio'n epig os ti'n gofyn i mi.
Ac mae'n ymddangos fod dymuniadau pen-blwydd i ddod ffordd y sefydliad ieuenctid mwyaf yng Nghymru, wrth i'r Urdd droi'n 90 dydd Llun diwethaf.
Cafodd y sefydliad ei gychwyn gan Syr Ifan ab Owen Edwards yn 1922 drwy apêl yng nghylchgrawn plant Cymru'r Plant, a cafodd y gangen gyntaf ei greu yn yr un flwyddyn yn Nhreuddyn.
Ers hynny, mae'r Urdd efo amryw safleoedd preswyl, un ohonynt mae CLIC wedi ymweld ag ef ar un o'i benwythnosau preswyl, ym Mae Caerdydd.
Mae hefyd efo gŵyl. Efallai dy fod wedi clywed amdano. Gelwir yn Eisteddfod yr Urdd.
I ddathlu mae Eurig Salisbury wedi ysgrifennu rhywbeth ar gyfer yr achlysur, gall ei weld yma.
Pen-blwydd Hapus, Urdd Gobaith Cymru.
Gad i ni obeithio byddi di'n dathlu dy ganfed mewn degawd.
Tudalen Ieithoedd.







