Us UnLtd
Y STORI HYD YN HYN….
Deuddeg mis yn ôl, cafodd Shelly Moorefield gyfarfod yn ei swyddfa gyda Katie a Suzanne o Gefnogi Pobl, a James o Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir Y Fflint.
Gofynnwyd i Shelly os byddai hi â diddordeb mewn gweithio “ychydig fwy” o oriau i weithio ar brosiect gyda rhai pobl ifanc gyda phrofiad o ddigartrefedd. “Doedd gen i ddim syniad y byddwn yn helpu’r un bobl ifanc gychwyn busnes eu hunain 12 mis wedyn” meddai Shelly.
Yn y dyddiau cynnar mae’n rhaid ei bod wedi cymryd naid o ffydd enfawr i Katie a Suzanne i rannu eu cyllid. Roeddent yn cael cyfarfodydd anhrefnus ar ôl cyfarfodydd anhrefnus, a dwi’n sicr eu bod yn melltithio ar adegau.
Roedd y tîm o bobl ifanc oedd yn y cyfarfodydd cynnar yn siarad am eu dyheadau am y dyfodol a’r fath o fywydau byddent yn hoffi byw. Unig ddymuniad un o’r aelodau oedd cael fflat efo gardd fel y gallai gael anifeiliaid anwes, tra roedd un arall eisiau byw mewn fflat tair llofft fel y gallai fyw gyda’i frawd bach a’i chwaer fawr.
Yn dilyn o hyn siaradom am y syniadau busnes hoffent eu dilyn, a daethom i fyny efo’r syniad o The Getaway, canolfan galw heibio i bobl ddigartref ble gallent gael cawod, rhywbeth i fwyta a chael eu cyfeirio at lefydd oedd yn rhoi cyngor am bob math o faterion.
Roedd rhai ohonom ni’r bobl ifanc wedi bod yn ddigartref ar y stryd cynt, ac roedd ‘cael ymolchi’ yn rhywbeth byddent wedi teithio i’r Gaer amdano gan mai dyna le’r oedd y ganolfan galw heibio digartref agosaf.
Lansiom ein DVD yn llwyddiannus (uchod) ym mis Gorffennaf 2010, yn dangos ein syniadau a sut daeth yr enw Us UnLtd i fodolaeth, ond gyda phob ‘high’ naturiol, mae’n cael ei ddilyn gydag ychydig o gwymp tra roeddem yn ymchwilio adeiladau ac yn gwneud tasgau mwy diflas fel ymchwilio’r farchnad.
Mae’n destament i ni'r bobl ifanc ein bod wedi parhau i fynychu’r cyfarfodydd ac wedi meddwl am syniad ar ôl syniad.
Daeth y llwyddiant nesaf yn hwyr yn fis Tachwedd 2010 pan, diolch i ddyfalwch Suzanne, fe ddaethom yn denantiaid balch o 53 Church Street. Er nad oedd ddigon mawr i ddod yn ganolfan galw heibio, byddai’n blatfform lle gallent gychwyn codi arian am ein hymdrech!
Ar ôl ychydig o anawsterau ar y cychwyn gyda stoc fe benderfynom ar siop crefftau, anrhegion a gemwaith o’r enw UnLtd, a chychwyn chwilio am gyflenwyr lleol.
Fe gawsom ychydig o bobl yn talu ffafr yn ôl yn helpu gyda gosodiadau’r siop, gwaith saer ac yn y blaen, ac ar 14 Chwefror 2010 cawsom ein dydd agoriadol.
Mae Us UnLtd wedi bod ar siwrne anhygoel dros y 12 mis diwethaf. Rydym wedi gorlethu gyda’r caredigrwydd mae pobl wedi ei ddangos i ni yn y gymuned leol ac ymhellach, a hoffwn ddiolch i Chris am ei sefyll ar y DVD, Russel am ddweud mai ni oedd ei grŵp gorau, a mwy. Diolch bois.
Dywedodd Paul, aelod o Us UnLtd, :Dwi wedi gweld y prosiect yn beth cyffrous, ac yn ofnus drwy feddwl am agor siop go iawn ac yn cystadlu gyda siopau lleol sydd wedi’u sefydlu yn yr ardal yn barod. Mae wedi bod yn brofiad pleserus ac mae hynny’n bennaf oherwydd y bobl sydd yn cymryd rhan.”
Manylion Cyswllt
Mwy am Us UnLtd






