Wedi’ch Llethu Gan Arholiadau?
Gall Straen arholiadau effeithio ar y modd y mae eich meddwl a’ch corff yn gweithio.
Gall straen fod yn dda i chi pan ydych yng nghyfnod yr arholiadau, oherwydd mae’n eich gwthio chi i wneud eich gorau. Ar y llaw arall, rydych yn poeni ac yn anghofio popeth wrth sefyll yr arholiadau.
Os ydych yn meddwl eich bod yn dioddef o straen arholiadau, mae yna nifer o symptomau, fel:
Teimlo’n flinedig
Eich corff i gyd yn brifo
Crio a theimlo’n drist
Cael ymosodiadau o banig
Deffro yn eich cwsg
Dioddef o anhwylder ar y stumog
Cael brech/smotiau ar y croen sy’n cosi
Mwy tebygol o gael annwyd a ffliw
Gallwch drin straen arholiadau drwy gadw’n ddigynnwrf ac yn ymlaciol, cael digon o gwsg, cymryd egwyliau rheolaidd wrth adolygu, rhoi amser hamdden a chymdeithasol i chi eich hun, bwyta’n iawn, cymryd rhan mewn ymarfer rheolaidd, ac yn fwy na dim, cadw’n bositif!
Os yw’r gwaethaf yn digwydd a bod eich meddwl yn mynd yn wag yn ystod eich arholiad, peidiwch â mynd i banig. Eisteddwch yn ôl, ymlaciwch a chanolbwyntiwch. Anadlwch yn ddwfn, a phan deimlwch eich bod yn barod, darllenwch y cwestiwn eto a chymerwch eich amser i’w ateb. Beth bynnag sy’n digwydd, peidiwch â gadael y ddalen yn wag.
Pan oeddwn i yn astudio yn CA3, doeddwn i ddim yn deall pam oedd plant deg ac unarddeg oed yn poeni cymaint am eu harholiadau, gan ddweud eu bod yn “ormod” iddyn nhw ddelio efo nhw. Ond nawr rydw i’n deall pa mor anodd ydy hi i daro cydbwysedd rhwng amser cymdeithasol ac adolygu.
Yn ddiweddar rydw i wedi bod yn ymdrin â straen arholiadau, a dyw e’ ddim yn neis iawn. Rydw i bob amser yn teimlo’n flinedig, dwi’n cosi, dwi’n brifo drosta’ i ac mae gen i annwyd. Mae’n erchyll! Bob dydd am bythefnos rydw i wedi bod ag o leiaf ddau arholiad dwy awr, sydd wedi fy mlino’n llwyr. Mae fy ffug arholiadau yn dod i ben yn fuan, a fedra’ i ddim aros. Bydd yn rhaid i mi ddioddef straen arholiadau unwaith eto ym mis Mai, oherwydd bod gen i rai TGAU cynnar.
Mae croeso i chi rannu eich profiadau am straen arholiadau. Cofiwch hefyd rannu eich awgrymiadau ar gyfer cael y gorau ar straen arholiadau. Byddai’n ddefnyddiol iawn.
Mae digon o gyngor ar gael yn ein Adran Gwybodaeth am Addysg.






