Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Y 4ydd Blog NadoCLIC

Posted by cindyCLIC from Bridgend - Published on 16/12/2010 at 08:53
0 comments » - Tagged as Culture, Environment, Health

English version

O ddydd Llun 13 i ddydd Gwener 24 Rhagfyr, bydd CLIC efo blog gwestai gwahanol bob dydd – Y 12 Blog NadoCLIC - ffaith! Dyma’r bedwaredd…

Sut fyddi di’n treulio diwrnod y Nadolig?

Wyt ti’n debygol o fod yng nghwmni'r rhai ti’n caru o flaen tân clyd, yn mwynhau cinio twrci ac yna’n rhwygo dy anrhegion ar agor i ddarganfod dy fod wedi cael popeth oedd ar dy restr dymuniadau?

Yn anffodus, mae yna nifer o bobl ifanc dros y byd sydd ddim efo’r moethusrwydd o fwynhau’r miri nag yn derbyn anrhegion.

Ar ddydd Nadolig, tra rydym yn mwynhau’r hwyl lawen, bydd llawer o blant a phobl ifanc dros y byd yn gweithio’n galed i gadw eu teuluoedd a’u hunain yn fyw.

Yn ôl UNICEF, mae amcangyfrif o 158 miliwn o blant 5-14 oed yn gysylltiedig â llafur plant – un ymhob chwch plentyn yn y byd.

Yn Shenzhen, Tsiena, mae plant yn gweithio mewn ffatrïoedd i wneud teganau ar gyfer allforio rhyngwladol am 13 i 15 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Maen nhw’n gweithio am fisoedd heb gael yr un diwrnod i ffwrdd.

Mae’r gweithwyr ifanc yma yn gweithio gyda phaent olew a sylweddau sydd a allai fod yn beryglus ac yn wenwynig heb offer amddiffynnol ac yn cael eu talu llai nag un sent am bob tegan maent yn cwblhau.

Yn Banglalore, India, mae pobl ifanc y strydoedd mewn dillad carpiog yn gwerthu nwyddau Nadolig fel capiau Siôn Corn, mygydau, blodau a phethau eraill i ennill bywoliaeth. Dywedodd un o’r plant hyn, Rahim sy’n 12, “Gan fod y Flwyddyn Newydd yn curo ar y drws, dwi’n gwerthu calendrau ar y lonydd. Mae pobl yn prynu nhw’n awyddus gan nad alle'n nhw wneud heb un.”

Yn y dref brysur o Bandung, Indonesia, mae’n gyffredin gweld plant yn gweithio mewn ffatrïoedd esgidiau dros dro. Maent yn gwneud esgidiau mewn amodau gweithio peryglus, sydd yn aml yn cael eu cyflenwi i gwmnïoedd esgidiau rhyngwladol.

Dywedodd Rosadi, 16, dreuliodd pum mlynedd yn gweithio mewn ffatri esgidiau, “Cefais i drafferthion gyda fy iechyd. Roeddwn yn teimlo’n benysgafn ac efo heintiau anadlol oherwydd y cemegau yn y gweithdy a dim awyriad. Roeddwn hefyd yn teimlo cenfigen tuag at y plant eraill oedd yn mynd i’r ysgol.”

Yn ddiolchgar ym Mhrydain, mae cymorth ariannol ar gael a pholisïau mewn lle i wneud yn sicr nad yw plant a phobl ifanc yn ddifreintiedig pan ddaw i’w hawliau ac yn gallu cael mynediad i’r cyfleoedd gorau mewn bywyd.

Yn 1989, cafodd rhestr o hawliau pobl ifanc ei greu gan y Cenhedloedd Unedig mewn rhywbeth o’r enw’r CCUHP – Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Yn 2004 derbyniodd Llywodraeth Cynulliad Cymru'r CCUHP gan fod ei goll bolisïau ar gyfer plant a phobl ifanc fel dy fod di, er enghraifft, ddim yn cael dy amddifadu o’r hawl i addysg ac yn gallu mwynhau safon o fyw sydd ddigon da ar gyfer dy anghenion corfforol a meddyliol.

Y Nadolig hwn, gad i ni fod yn arbennig o ddiolchgar am bob anrheg rydym yn derbyn.

Gan efallai gall yr eitemau yn ein dwylo fod wedi cael eu gwneud yn ddiwyd gan blant a phobl ifanc mewn gweithdy cyflog-isel mewn gwledydd datblygiadol, eu plentyndod wedi’i ddwyn oddi wrthynt ac efallai byth yn gwybod sut beth ddylai’r Nadolig fod.

Cindy ydy Swyddog Datblygu CLIC ac yn fam i fachgen bach chwe mis oed.

12 Blog Y NadoCLIC

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.