Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Y 6ed Blog NadoCLIC

Posted by GeoffCLIC from Wrexham - Published on 18/12/2010 at 09:11
0 comments » - Tagged as Sport & Leisure

English Version

O ddydd Llun 13 i ddydd Gwener 24 Rhagfyr, bydd CLIC efo blog gwestai gwahanol bob dydd – Y 12 Blog NadoCLIC - ffaith! Dyma’r chweched…

Helo, fy enw i ydy Geoff a dwi’n gweithio i CLIC.

Fy swydd i ydy siarad gyda’r awdurdodau lleol a dweud wrthynt am y buddion aruthrol o gael gwefan CLIC lleol, yn cael ei or-weld a’i gefnogi gan grŵp golygyddol pobl ifanc.

Mae’n hen adeg od o’r flwyddyn yn ein tŷ ni, mae gen i rôl arbennig iawn: Dwi’n talu am yr anrhegion, yn rhoi’r goleuadau Nadolig i fyny – gan gynnwys y rhai ar y to, yn chwarae Siôn Corn ar Noswyl Nadolig, ac yn rhedeg fy pum merch, pedwar  ŵyr ac wyres a fy ngwraig ymdrechgar o gwmpas yn nhacsi dad!

Mae hyn i gyd yn arferol, mae’r rhan fwyaf o dadau efo’r un dyletswyddau, ond ar ben hyn dwi’n rhan o dîm sydd yn helpu hyfforddi athletwyr crefft ymladd (martial arts) cymysg lleol (weithiau yn cael eu hadnabod fel ymladdwyr cawell).

Nawr nid oes galw mawr am ymladdwyr cawell dros y Nadolig, felly yn naturiol mae ein hymladdwyr yn ymlacio ychydig. Felly pob Nadolig mae gen i ymladdwyr euog yn gofyn i mi sut gall colli pwysau ar gyfer y flwyddyn newydd ar ôl yr holl orfwyta.

Mae posib hefyd mai fi fydd yr oedolyn priodol pan fydd rhai o’n hymladdwyr ifanc yn darganfod eu hunain wedi cael eu cloi mewn cell dros nos wedi’u harestio, am beth bynnag, a ddim yn gallu cofio pam eu bod yn y carchar.

Mae hyn yn golygu bod yr heddlu lleol yn galw fi am ryw awr annaearol ac yn dweud fod Joe (‘Y Peiriant’) Evans ( ei enw wedi’i newid i amddiffyn yr annwyl bach) wedi’i gloi i fyny a gallwn i ddod draw i’r orsaf leol gan nad yw eisiau trafferthu Mam a Dad adeg y Nadolig.

Mae gen i aelodau hap o’r cyhoedd, fel arfer dynion ifanc, yn gofyn i mi sut gallan nhw gymryd rhan a pa bryd gallan nhw gael cyfle cyntaf yn y gell, fel arfer pam dwi’n ceisio prynu anrhegion Nadolig.

Dwi yn wastad yn cael ymladdwyr rhonc sydd yn gofyn a gawn ddefnyddio’r gampfa ar Ddiwrnod Nadolig. Ond fel arfer fi ydy’r unig un sydd yn ymddangos gan nad ydynt yn dod – neu’n dod gydag ewythr Dave yn llawn pwdin Nadolig a sieri rhad, sydd yn meddwl gallai dreulio prynhawn y Nadolig yn mynd pump rownd gyda’i nai ffit, ifanc.

Y nith, wrth gwrs, sydd efo bachiad chwith fydd yn gyrru ewythr Dave i Begwn y Gogledd ac yn ôl!

Felly, tra rwyt ti’n mwynhau dy dwrci, meddylia amdana i a’n tîm MMA. Gobeithio cewch chi Nadolig grêt, cofia dy ffrindiau a dy deulu, a meddylia am yr ymladdwyr druan yna’n deietio, yn rhedeg ac yn taro’r gampfa tra ti’n gyffyrddus ar dy soffa yn gwylio The Wizard Of Oz eto!

Nadolig Llawen bawb, gobeithio byddwch yn mwynhau y cân Nadolig dwi wedi dewis i chi [gweler fideo]!

12 Blog Y NadoCLIC

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.