Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Y Newyddion Heddiw

Posted by steampunk13 from Bridgend - Published on 02/06/2011 at 14:14
0 comments » - Tagged as Culture, People, Topical

  • papurau

English version

Am y bythefnos ddiwethaf yr unig beth glywaf a'i weld ar y teledu ydy'r 'super injunctions', plentyn cyfrinachol Arnie a Cheryl Cole yn America.

Dwi wedi cael llond bol o glywed am y materion pitw yma fydd wedi'u hanghofio mewn ychydig fisoedd, ond sydd ar hyn o bryd ar flaen tafod pawb.

Dwi ddim yn talu llawer o sylw i'r newyddion fel arfer; yn arferol dwi ddim eisiau clywed am ba beth dadleuol mae gwleidydd wedi'i ddweud neu os yw Obama yn well arlywydd nag Bush.

Ond, byddai'n well gen i glywed am hyn na chael pawb yn siarad am bethau mor bitw sydd â dim pwysigrwydd i'r cyhoedd cyffredin. Ydw, dwi yn deall fod pobl yn hoffi selebs a hel clecs, ond ydy gwybod am bêl droediwr sydd wedi bod yn cysgu gyda meistres a sawl plentyn gall y Terminator gynhyrchu yn gyfrinachol mor bwysig â hynny?

Ble mae'r newyddion diweddaraf am y rhyfel yn Libya a'r tornado enfawr sydd wedi taro America? Dyma'r pethau dwi eisiau darllen a chlywed ar y newyddion. Mae'r rhain wedi effeithio cymaint o bobl dros y byd mewn cymaint o ffyrdd gwahanol.

Ond eto dim ond y sylw lleiaf sydd yn cael ei roi iddynt os nad yw'n ymwneud â'r DU yn uniongyrchol, fel y Rhyfel Yn Erbyn Terfysgaeth. Dim ond pan fydd milwr yn marw mae'r papurau newydd yn adrodd arno. Nid oes sôn go iawn wedi bod ar ble rydym yn y rhyfel, neu os ydym ni yn cael i unlle mewn gwirionedd.

Ond, roeddwn i'n falch o glywed fod cyfiawnder wedi ei wneud yn ddiweddar i'r holl bobl sydd wedi cael eu heffeithio (ydw, dwi yn sôn am farwolaeth Bin Laden). Dwi ddim eisiau dathlu marwolaeth dyn, a dwi ddim yn credu fod lladd un arweinydd terfysgaeth yn gwneud llawer o wahaniaeth, ond yn sicr mae adrodd am hyn i gyd yn fwy pwysig na phen ôl enwog Miss Middleton.

Nid y rhyfeloedd rydym yn ymladd ynddynt ydy'r unig beth dwi eisiau gwybod amdanynt. Mae yna broblemau byd eang eraill sydd angen mwy o sylw yn y newyddion yn fy marn i. Fe ddigwyddodd y daeargryn a'r tsunami yn Siapan yn fis Mawrth (llai na tri mis yn ôl) ond eto mae fel petai'r papurau newydd wedi anghofio'n llwyr eu bod yn parhau i geisio dod allan o'r hunllef yma. Dim ond y digwyddiad ei hun bu'r gohebwyr yn sôn amdano, nid y canlyniadau sydd wedi dilyn.

Dwi'n gwybod mai'r papurau safonol (fel The Guardian a'r Independent) sydd yn adrodd yn bennaf am wleidyddiaeth a diwylliant, a bod y papurau tabloid (fel The Sun a'r Daily Mirror) yn adrodd yn bennaf ar y diwylliant poblogaidd a'r enwogion, ond ar nifer o achlysuron maent yn cyfarfod ei gilydd hanner ffordd.

Iawn, dwi yn cytuno fod llawer mwy i'r byd hwn na chyfnodau isel caled, ac weithiau mae clecs selebs yn gwrthdynnu'n sylw o fywydau ni'n hunain. Er hynny, ydy dilyn uchafbwyntiau ac isafbwyntiau gyrfa Cheryl Cole yn fwy pwysig na chyflwr ariannol presennol y wlad?

Fy mhwynt yw: mae clecs selebs yn ddiflas dros ben pam mai dyma'r unig beth mae pobl yn siarad amdano yn barhaol.

Â'i fi yw'r unig un, yn yr oedran tyner o 21, gyda'r farn hon?

Neu ydy hyn yn achos o fynd yn hen cyn fy amser, yn ymateb fel dynes hen sarrug sydd wedi colli ei humbugs?

Media UK

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.