Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Y Peth Mawr Nesaf

Posted by emb789 from Cardiff - Published on 30/06/2011 at 11:08
0 comments » - Tagged as Music

  • pixie
  • Strider

English version

Wyt ti rhwng 11 a 19 oed?

Oes gen ti ddiddordeb mewn cerddoriaeth?

Oes gen ti dalent am berfformio neu ysgrifennu cerddoriaeth?

Wyt ti wedi diflasu ar y cwestiynau yma?

Os mai "YDW/OES" ydy dy ateb i'r cwestiynau hyn yna ti gallai fod y peth mawr nesaf! (neu'r Next BRIT Thing)

Mae yna dair gwobr ar gael yn y gystadleuaeth: roc/pop/trefol, clasurol, a chyfansoddwr/ysgrifennwr caneuon gorau.

Mae gen ti hyd at fis Medi, felly gallet ddechrau ysgrifennu ac ymarfer nawr! Hoffwn hefyd awgrymu ceisio cael ychydig o gyhoeddusrwydd, gan mai'r artistiaid mwyaf poblogaidd fydd yn cael eu dewis i berfformio o flaen panel.

Mae caniatâd i ti ddefnyddio caneuon 'cover', ond ti ddim yn cael defnyddio unrhyw beth o waith rhywun arall; felly dim traciau cefndir ti ddim wedi'i wneud dy hun, dim cymryd darnau o drac rhywun arall, a dim cymysgedd DJ o drac ti ddim wedi'i wneud dy hun.

Gall geisio cymaint o weithiau ag yr wyt ti eisiau, a bydd manylion am fformatio a stwff diflas fel hynny ar gael pan fydd y wefan yn agor ei ddrysau i'r cyhoedd yn fis Medi.

Mae The Next BRIT Thing efo cefnogaeth gan nifer o selebs, gan gynnwys Tinchy Stryder a Pixie Lott. Mae hefyd adran yn cynnig cymorth arbenigol ar bethau fel recordio, perfformio, a hyd yn oed awgrymiadau i'r rhai sydd eisiau dilyn gyrfa mewn cerddoriaeth (dywedai Chris Singleton, cerddor bûm yn cyfweld ychydig yn ôl, "Paid â'i wneud!" Os nad yw hynny'n ddigon o ysgogiad i ti, dwi ddim yn gwybod beth fyddai).

Mae gwybodaeth ar gyfer rhieni ac arweinyddion yma felly dylet yrru dy riant/gwarchodwr yma os oes gen ti ddiddordeb.

Pob lwc, cerddorion ifanc!

www.nextbritthing.com

Tudalen Cerddoriaeth

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.