Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Y Rap Cyfranogi

Posted by SwooshMe from Vale Of Glamorgan - Published on 22/07/2010 at 20:09
0 comments » - Tagged as Education, Movies, Music, People, Topical, Volunteering

  • CCUHP
  • CCUHP
  • CCUHP

English version

Cafodd Swoosh y pleser o gwmni pobl ifanc ffantastig o ysgol Gymraeg Bro Morgannwg mewn digwyddiad lansiad bach o’r fideo rap Cyfranogi CCUHP.

Ariannwyd y prosiect hwn gan Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Bro Morgannwg.

Roedd Leonie Horton, gweithiwr Ysgolion yn Ffocysu ar Gymunedau, wedi hysbysu’r prosiect yn yr ysgol, a dyma’r darpar sêr ifanc yma yn dangos diddordeb mewn cymryd rhan yn creu a serennu yn y fideo dwyieithog rap i’r CCUHP.

Mae CCUHP yn sefyll am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, a swydd y criw bywiog yma oedd hyrwyddo’r CCUHP a helpu i amlygu hawliau pobl ifanc yng Nghymru.

I gychwyn y broses greadigol, cynhaliwyd nifer o weithdai ar y thema o’r CCUHP, cyfranogaeth a safonau gan Ve Van de Voorde. Ve ydy Swyddog Cyfranogi Ieuenctid Bro Morgannwg.

Gwirfoddolodd y myfyrwyr o Ysgol Gyfun Bro Morgannwg i gymryd rhan yn y gweithdai i gyd, gyda chymorth gan diwtoriaid Cerddoriaeth Gymunedol Cymru i ysgrifennu’r geiriau. A’r twist? Roedd rhaid i’r rap fod yn Gymraeg a Saesneg!

Unwaith roedd y geiriau yn barod, aeth y grŵp cynhyrfus i Studio41, Bari yn ystod gwyliau’r Pasg i recordio’r gerddoriaeth a’r gân gyda Vibe Experience.

Cafodd y grŵp lwcus yma eu ffilmio am ddau ddiwrnod ar leoliad hefyd gan gwmni ffilm leol Vibe Creative, yn defnyddio V-Pod sgleiniog newydd sbon Bro Morgannwg, bws dec sengl sydd wedi’i drawsffurfio yn anhygoel ac yn llawn o’r amlgyfryngau fwyaf diweddar. Mae Pimp My Ride yn dod i’r meddwl!

 Yn dilyn llawer o waith caled, hwyl a chwerthin, roedd y rap cyfranogi wedi’i gwblhau ac wedi’i enwi yn briodol yn Choices/Dewisiadau. Bu i mi gyfarfod gyda’r bobl ifanc a’r trefnwyr mewn lansiad bach yn Mai 2010. Cafodd y fideo cerddoriaeth ei ddangos i rieni, teulu a ffrindiau. Drwy glywed y sgrechian chwerthin, dwi’n meddwl fod myfyrwyr Bro wedi ei hoffi! Roedd y rhieni wedi cael syndod am y gorau hefyd.

Dywedodd Ve Van de Voorde: “Mae’r bobl ifanc wedi creu adnodd gwych fydd yn cael ei ddefnyddio mewn sesiynau hyfforddiant a gweithdai yn lleol a dros Gymru gyfan i gyflwyno’r pwnc o gyfranogi i bobl ifanc a gweithwyr.

“Maen nhw wedi gweithio yn galed iawn ac wedi rhoi llawer o ymdrech i mewn i hyn. Dwi’n sicr fod Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, sydd yn lansio’r rap yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg dydd Mercher 14 Gorffennaf, yn mynd i fwynhau’r rap yn fawr iawn a gwerthfawrogi eu gwaith.”

Y CYFWELIAD:

Dwi’n eistedd yma gyda Bethan Yapp, Ffion Evans, Scott Bevan, George Connelly a Callum Harding. Yn anffodus dydy Corey Beavis a Liam Beavis ddim yn gallu bod yma heddiw.

Maen nhw i gyd yn fyfyrwyr yn Ysgol Bro Morgannwg ac yn ysgwyd gyda chyffro ar ôl gwylio’r fersiwn terfynol o’u fideo cerddoriaeth am y tro cyntaf.

Beth oedd y darn gorau o fod ynghlwm â’r prosiect fideo cerddoriaeth CCUHP?

Bethan: Roeddwn i wrth fy modd efo’r holl beth. Y recordio, bod ar leoliad, teimlo’n enwog. Y profiad i gyd.
Ffion: Roedd gallu defnyddio’r bws V-Pod i ffilmio arno yn eithaf cŵl hefyd.
Callum: Ia, roedd yr offer ar y bws yna yn anhygoel – yn gwneud y ffilmio yn llawer fwy o hwyl.
Bethan: Fe fwynheais greu ac ysgrifennu’r geiriau i’r fideo hefyd.

Oes yna unrhyw glecs da i rannu efo ni o greu’r fideo?

Scott: Un o’r pethau doniol oedd George yn ceisio gwneud llawsafiad ac yn cicio Liam yn ei ben. Ac fe griodd Liam!
Ffion: Ha ha, George oedd bendant yr un oedd ar ôl yr amlygrwydd fwyaf.
Scott: Ia, ond roedd Corey yn rhechu drwy’r prosiect i gyd.
Bethan: Dwi’n meddwl fod pawb yn eithaf swil i gychwyn, ond cyn hir roedd pawb wedi dod i arfer (bod ar ffilm).

Mae’n swnio fel eich bod wedi cael llawer o hwyl! Beth fydda chi’n dweud oedd y darnau gorau o gymryd rhan?

George: Bydd ein ffrindiau i gyd mor genfigennus. Roedd yn hwyl dda – a dwi nawr yn gwybod pwy ydy Keith Towler.
Scott: Dwi’n meddwl fod pawb yn mynd i feddwl ei fod o’n ddoniol. Fe geith y neges drosodd hefyd.
Pawb: Roedd o jyst yn wych cael cymryd rhan. Gwneud ti’n nerfus – ond da.

Felly beth sydd yn y dyfodol i chi? Fyddech chi’n hoffi parhau fel grŵp a gwneud mwy o gerddoriaeth?

Scott: Efallai dylem ni ddal ati… I’w barhau!
Ffion: Byddwn i’n bendant yn hoffi parhau a gwneud mwy o gerddoriaeth a ffilmiau.
Callum: Dwi’ meddwl bod angen enw arnom ni… Rapmaster… 50 pence… The Ones!

(Ar y pwynt yma mae Callum yn parhau i feddwl am enwau band newydd. Efallai y dylai fod yn rheolwr arnynt.)

Bethan: Dwi’n gobeithio parhau i ysgrifennu o leiaf, ond byddai’n wych cael gwneud yr holl beth eto.
Ffion: A fi hefyd, roedd yn brofiad cofiadwy.

Crynhoi’r holl beth mewn tri gair…

George: Gwych hollol, positif.
Ffion: Profiad doniol, cofiadwy.
Callum: Profiad cyffrous eithafol.
Scott: ROEDD. YN. WYCH.
Bethan: Anrhydeddus. Hwyl. BŴM!

LINCIAU

CCUHP – Gwneud Pethau’n Iawn!

Comisiynydd Plant Cymru

Tudalen Gwybodaeth Cyfranogi CLIC

Swoosh

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.