Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Ydy Dydd Gwener Wedi Bod?

Posted by steampunk13 from Bridgend - Published on 06/04/2011 at 09:33
0 comments » - Tagged as Culture, Music, Topical

  • black

English version

Iawn, felly dwi’n eistedd yn fy ‘stafell, mae’r sianeli miwsig ar yn y cefndir, ac mae cān yn dod ymlaen.

I gychwyn nes i ddim meddwl dim am y peth, nes i mi dalu sylw at y llais oedd wedi’i awto-tiwnio yn ddrwg a’r geiriau ofnadwy:

Gotta have my bowl, gotta have cereal… Gotta get down to the bus stop, gotta catch my bus, I see my friends…

Dwi’n edrych i fyny yn meddwl un peth: ‘beth sydd wedi digwydd i’r diwydiant miwsig?’ Hefyd, ‘pam ddiawl fod merch ar y teledu yn canu am ddiwrnod, nid unrhyw ddiwrnod arbennig, ond y diwrnod cyn dydd Sadwrn a beth ddigwyddodd y diwrnod hwnnw?’ Dwi’n newid y sianel yn sydyn ac yn ceisio darganfod cān llawer gwell.

Y diwrnod wedyn dwi’n sylweddoli’r gān eto. Ar YouTube daeth i fyny fel fideo argymelledig a chefais fy nhemtio i edrych ar y sylwadau am y gān. Ond cefais fy synnu, er fy mod i’n casįu’r gān doeddwn i ddim yn disgwyl dros filiwn o ‘gasįu’ o gymharu ag ychydig dros fil o ‘licio’.

Sut mae’r ferch yma mor boblogaidd pan mae pawb yn dweud mai dyma’r gān waethaf mewn hanes?

Ymchwiliais i mewn i’r gān a darganfod mai dim ond 13 oedd y ferch, Rebecca Black, pan ganodd hwn, ac roedd hi’n ymgeisio fel artist. Cafodd y gān ei hun ei ysgrifennu gan gwmni cynhyrchu Ark Music.

Mae sylfaenydd y cwmni, Patrice Wilson, yn dweud ei fod yn codi rhwng $2000 - $4000 (neu £1240 - £2480) am becyn sydd yn caniatįu artistiaid ifanc gael mynediad i stiwdio, steilio, sesiynau tynnu lluniau a hyrwyddiad i’w gwaith.

Er y ffaith fod rhai pobl yn meddwl mai ef ddylai gymryd y bai, mae Wilson yn datgan fod Rebecca Black wedi mynnu mynd yn ei blaen gyda’r gān. Ond mae ei mam a hithau yn dod ac achos cyfreithiol yn ei erbyn yn honni trosedd ac ecsploetiaeth anghyfreithiol.

Mae’n debyg byddai’r gān wedi cael ei anghofio o fewn ychydig fisoedd ond bydd hyn yn aros gyda Rebecca Black am byth – ni allai fynd i unlle na chanu dim heb gael ei hatgoffa o’r gān ofnadwy yma.

Dwi’n teimlo’n sori drosti gan mai’r unig beth roedd hi eisiau oedd bod yn ganwr ond mae Ark Music yn cael eu cyhuddo o ddifetha’r cyfle yma iddi’n gyfan gwbl. Mae hi wedi dod yn enwog am y rhesymau anghywir.

Mae’n gwneud i mi feddwl, os byddai hwn wedi’i ganu gan Justin Bieber, Miley Cyrus neu One Direction, fyddai pobl yn dal i honni mai dyma’r gān waethaf erioed? Dwi ddim yn gwybod sut byddai’r ffans rhonc yn ymateb os mai un o’r artistiaid yma fydda’n rhyddhau’r gān yma.

Beth wyt ti’n feddwl, a’i hwn yw’r gān waethaf erioed? A’i bai Rebecca Black ydyw, neu Patrice Wilson?

Neu wyt ti’n hoffi’r gān a ddim yn deall pam ei fod wedi derbyn beirniadaeth mor gryf?

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.