Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Ymwybyddiaeth Drwy Arlunio

Posted by jayne dulson from Cardiff - Published on 26/04/2010 at 10:37
0 comments » - Tagged as Art, Education, People

  • NDCS

Click here for English version

Mae'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, NDCS Cymru, eisiau creu poster i esbonio popeth am fod yn fyddar i athrawon, staff ysgolion a disgyblion - ac maent eisiau help pobl ifanc byddar i wneud hyn.

Mae'r prosiect yn ymateb i bryderon wedi’i godi gan bobl ifanc byddar yn ystod yr ymgyrch Os Gallwn Newid Un Peth, redwyd gan yr elusen y llynedd. Ymateb y bobl ifanc oedd eu bod eisiau i bobl wybod mwy am sut beth ydy bod yn fyddar.

Mae NDCS Cymru yn galw ar fyfyrwyr byddar i lawr lwytho templed o'u gwefan a rhoi syniadau iddynt am boster codi ymwybyddiaeth i fyddardod. Bydd yr ymgais gorau yn gweld eu cynllun ar boster newydd fydd yn cael ei ddosbarthu i ysgolion dros y wlad yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Pobl Fyddar (28 Mehefin i 24 Gorffennaf).

Dywedodd Jayne Dulson, Cyfarwyddwr NDCS Cymru: “Rydym yn gobeithio bydd nifer o fyfyrwyr byddar yn helpu ni i greu poster i wneud gwahaniaeth yn eu hysgolion. Ar ddiwedd y dydd, chi ydy’r arbenigwyr!”

Mae’r prosiect ar agor i bob plentyn a pherson ifanc byddar yng Nghymru. I lawr lwytho’r templed ac i ddysgu mwy am y prosiect, ymwelwch â’n gwefan – ond brysiwch, mae’r dyddiad cau ar Ebrill 30!

Beth ydy’r NDCS?

Elusen genedlaethol ydy’r NDCS sydd yn canolbwyntio ar greu byd heb rwystron i blant a phobl ifanc byddar. Ymysg pethau eraill, mae’r NDCS yn gwneud y canlynol:

•Rhedeg digwyddiadau hwyl ledled Prydain ar gyfer bobl fyddar ifanc. •Ymgyrchu am well wasnaethau i bobl ifanc byddar •Cynnig cefnogaeth i bobl ifanc byddar a’u teuluoedd.

Am wybodaeth am bob math o faterion iechyd ewch i chwilio yn ein hadran gwybodaeth.

Cydnabyddiaeth am y llun: Drawing Manga gan Plindberg

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.