Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Yn Chwilio Am Newyddiadurwyr Ifanc

Posted by CLICtania from National - Published on 04/08/2010 at 13:05
0 comments » - Tagged as Creative Writing, People, Volunteering

  • journo

English version

Noder: Cyn darllen hwn, darllenwch hwn!

Mae plant a phobl ifanc ledled Cymru yn cael ei sialensio i chwarae’r rôl o newyddiadurwr ac adrodd ar y newyddion.

Mae cystadleuaeth o’r enw Geir-IAU, yn cael ei redeg gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn cydweithrediad â CLIC, yn annog ti i godi beiro, nodlyfr, peiriant cofnodi clywedol neu gamera fideo ac adrodd ar bethau positif sy’n digwydd gartref, yn yr ysgol ac yn dy gymuned.

Mae’r ymarferiad wedi’i gynllunio i amlygu’r Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), a’r amcan ydy i daclo’r delweddau negyddol o blant a phobl ifanc yn y cyfryngau wrth hyrwyddo’r newyddion positif sydd weithiau yn cael ei anghofio.

Bydd storiâu newyddion, adolygiadau, lluniau a chyfraniadau golygyddol eraill yn cael eu hystyried am gyhoeddiad yn y Geir-IAU/CLICzine, papur newydd dathliad arbennig fydd yn cael ei gyhoeddi hwyrach ymlaen yn y flwyddyn i nodi pen-blwydd 21ain y CCUHP.

Bydd y gystadleuaeth hefyd yn gymorth i’r rhai sy’n ceisio i ennill sgiliau ymchwil ac adrodd gwerthfawr.

Wrth lansio’r gystadleuaeth yr wythnos hon, dywedodd Huw Lewis, Dirprwy Weinidog i Blant: “Mae’r cyfryngau yn ei gyfanrwydd yn offeryn grymus. Trwy’r gystadleuaeth hon mae plant a phobl ifanc yn gallu dysgu sut mae’n gweithio a sut gall ddweud eu stori mewn print, ar yr awyr ac ar y we fyd-eang.

“Nid yw plant a phobl ifanc yn cael eu portreadu yn y ffordd gorau bob tro gan rai adrannau o’r cyfryngau. Mae hwn yn gyfle iddynt wneud yn iawn ac i sicrhau fod cynulleidfaoedd yn cael darlun llawn o’r newyddion, barnau a materion sydd yn bwysig iddynt.

 “Mae nifer o faterion yn wynebu plant a phobl ifanc, o berthnasau, hunan-barch a diogelwch i adloniant, addysg, chwaraeon a bywyd cymunedol. Rydym yn gobeithio gweld hyn i gyd yn cael ei adlewyrchu yn y ceisiadau i’r gystadleuaeth.”

Mae’r gystadleuaeth yn rhan o fenter ehangach wedi’i gynllunio i hyrwyddo’r Cynllun Gweithredu pum mlynedd Gwneud Pethau’n Iawn, sydd yn gosod allan sut mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu gwneud holl ddyheadau’r CCUHP yn realiti yng Nghymru.

Bydd ymgeiswyr yn cael tan ddydd Gwener 8 Hydref i yrru eu herthyglau i mewn. Yn arwain i fyny at y dyddiad cau, bydd ymgeision yn cael eu cyhoeddi yma ar CLIC, ble bydd pobl ifanc yn gallu pleidleisio am y cyflwyniad gorau.

Bydd yr enillydd yn derbyn iPad, tra bydd wyth enillydd rhanbarthol yn derbyn pecyn arbennig newyddiadurwr gan gynnwys Camcordor Fideo Fflip, peiriant cofnodi clywedol a chanllaw ar sut i adrodd y newyddion.

Mae’r gystadleuaeth wedi’i rhannu i mewn i ddau gategori: plant saith i ddeg oed, a phobl ifanc 11 i 25.

Bydd gwobrwyon yn cael eu cyflwyno yn ystod diwrnod arbennig o weithgareddau, yn nodi pen-blwydd 21ain yr CCUHP, i gael ei gynnal yn y Senedd yn Nhachwedd.

Manylion y gystadleuaeth ac arweiniad ar adrodd newyddion i’w gael yn http://www.ccuhpgwneudpethauniawn.co.uk/competition.aspx.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.