Yn Galw Holl Deithwyr
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sefydlu Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus i Gymru.
Mae’r Pwyllgor yma yn cynghori’r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth ar faterion trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru.
Maent yn awyddus iawn i glywed barn pobl ifanc rhwng 11 a 17 oed.
Ydy dy gwmni bws lleol yn haeddu cydnabyddiaeth am ei yrwyr cyfeillgar?
Ydy dy drên di bob tro’n hwyr?
Ddylai ceir llusg a hysgi fod ar gael pan fydd hi’n bwrw eira?
Dyma’r cyfle i ti ddweud wrthynt am y drafnidiaeth gyhoeddus yn dy ardal di, a sut gall wella arno.
Mae holiadur wedi’i lincio isod. Plîs cymera ychydig funudau i’w lenwi.
Holiadur Trafnidiaeth Gyhoeddus
DELWEDD: Norma Desmond






