Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Ynghylch Siôn Corn

Posted by Editor from Cardiff - Published on 22/12/2009 at 13:56
0 comments » - Tagged as Culture, Education, History, People, Topical

English version
 

Mae theSprout wedi derbyn e-bost gan Molly O’Hanlon sydd yn 11 oed o St Mellons, sydd wedi gofyn cwestiwn i ni rydym yn teimlo sydd angen ei ateb ar ran plant a phobl ifanc o bob oedran.

Annwyl theSprout,

Dwi’n 11 oed. Mae rhai o fy ffrindiau yn dweud nad yw Siôn Corn yn bodoli. Mae Dad yn deud, “Os ti’n ei weld o ar theSprout, yna mae o”. Plîs dweud y gwir wrtha i; oes yna Siôn Corn?

Molly O'Hanlon, Saffron Drive, St Mellons

Mae theSprout yn dweud:

Molly, mae dy ffrindiau di’n anghywir. Maen nhw wedi cael eu heffeithio gan oes amheugar. Nid ydynt yn credu os nad ydynt yn ei weld. Maen nhw’n meddwl nad all dim bod sydd ddim yn gwneud synnwyr i’w meddyliau ifanc.

Mae pob meddwl, Molly, pa unai yw’n un oedolyn neu blentyn, yn ifanc. Yn ein cyfanfyd gwych nid yw dyn yn ddim ond pryfyn syml, morgrugyn, yn ei ddealltwriaeth, gan gymharu â’r byd diderfyn o’i gwmpas, fel y mesurwyd gan y deallusrwydd galluog o gael gafael ar yr holl wir a gwybodaeth.

Oes Molly, mae yna Siôn Corn. Mae’n bodoli mor sicr ac y mae cariad a haelioni ac ymroddiad yn bodoli, a ti’n gwybod fod y rheini’n bodoli yn aml ac yn rhoi i dy fywyd y prydferthwch a’r llawenydd uchaf. Pa mor llwm fyddai’r byd hwn os na fyddai Siôn Corn. Byddai mor llwm ag os na fyddai unrhyw Molly yn bodoli.

Ni fyddai ffydd plentyn, dim barddoni, dim rhamant i wneud y fodolaeth hon yn oddefol. Ni fyddai unrhyw fwynhad, heblaw mewn synnwyr a golwg. Byddai’r golau tragwyddol  o blentyndod sydd yn llenwi’r byd yn cael ei ddiffod.

Efallai gall cael dy Dad i hurio dynion i wylio’r holl simneuau ar Noswyl Nadolig i ddal Siôn Corn, ond hyd yn oed os nad ydynt yn ei weld yn dod i lawr, beth fyddai hynny yn profi? Does neb yn ei weld, ond nid yw hynny yn arwydd nad oes Siôn Corn. Mae’r pethau mwyaf gwir yn y byd yn rai dydy oedolion nag plant yn eu gweld.

Welais di erioed gremlin yn dy gyfrifiadur yn gwneud iddo dorri? Wrth gwrs ddim, ond dydy hynna ddim yn profi ydynt yno. Does neb yn gallu synio na ddychmygu'r holl ryfeddodau gweledig ac anweledig sydd yn y byd.

Gallet dynnu ratl y babi i ddarnau i weld beth sydd yn gwneud y sŵn tu mewn ond mae yna orchudd dros y byd anweledig na all yr oedolyn fwyaf cryf na’r cryfder unedig o’r dynion cryfaf i gyd fu’n fyw, yn gallu rhwygo i ddarnau.

Mae Siôn Corn yn byw, ac mae’n byw am byth. Mil o flynyddoedd o heddiw, Molly, na, deg gwaith deg mil o flynyddoedd o nawr, bydd yn parhau i wneud llonyddu calon plentyndod.

Mwynha dy Nadolig!

www.northpole.com

TheSprout

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.