Ynys Frenhinol
Mae’r Tywysog William yn aros ar Ynys Môn tan ddiwedd yr Haf wrth iddo gymryd rhan mewn cwrs hyfforddiant ar yr ynys.
Cyrhaeddodd y Tywysog, Awyr-lifftenant Cymru, ar ddiwedd mis Ionawr i gychwyn y Cwrs Chwilio ac Achub yn Llu Awyr Brenhinol y Fali (RAF). Nid yw’r Fali yn ddieithr i’r Tywysog gan iddo dreulio pythefnos yno yn 2005 ar gyfnod o brofiad gwaith.
Cwblhaodd y Tywysog 12 mis ar gwrs uwch hedfan hofrennydd yn y RAF yn Shawbury a’r cwrs presennol ydy’r cam nesaf iddo ddod yn beilot gweithredol llawn gyda’r Llu Achub a Chwilio RAF.
Bydd y Tywysog yn treulio hyd at 6 wythnos ar yr Uned Hyfforddiant Chwilio ac Achub yn parhau ei hyfforddiant ar yr hofrennydd Griffin. Bydd yn cwblhau ei hyfforddiant ar yr Uned ‘Sea King Operational Conversion Unit’, lle bydd yn dysgu ar gymysgedd o efelychwyr (simulators) a hofrennydd Sea King y RAF. Yn ystod yr haf bydd cyfres o ymarferion wedi’i gynllunio i brofi ei amrediad sgiliau llawn.
Os bydd yn llwyddiannus bydd y Tywysog yn dod yn beilot Chwilio ac Achub gweithredol llawn gydag un o’r 6 Lluoedd Chwilio ac Achub y RAF ym Mhrydain. Mae taith arferol i beilot yn gyfnod o 30 i 36 mis.
Cofia fod yn wyliadwrus rhag ofn i ti weld William yn siopa yn un o drefydd Ynys Môn un dydd, yn mynd i nol bara o Asda neu bast dannedd o Wilkinsons!







