Yr Ail Flog NadoCLIC
English version
O ddydd Llun 13 i ddydd Gwener 24 Rhagfyr, bydd CLIC efo blog gwestai gwahanol bob dydd – Y 12 Blog NadoCLIC - ffaith! Dyma’r ail…
Dwi’n caru’r Nadolig, dyma adeg gorau o’r flwyddyn i mi.
Dwi wrth fy modd gyda’r holl gynnwrf, yr arferion i gyd, y gerddoriaeth; popeth sydd ynghlwm â’r Nadolig.
Yn fy marn i, Noswyl y Nadolig ydy’r rhan gorau ohono, dwi wrth fy modd gyda’r teimlad rhyfedd yna ti’n cael wrth i ti ragweld y diwrnod canlynol, a dyma pam dwi wedi mwynhau darllen A Child’s Christmas In Wales gan yr awdur Cymraeg enwog, Dylan Thomas.
Mae’n cychwyn ar Noswyl Nadolig ac mae ei ddefnydd o iaith yn wych. Roedd fy athrawes Saesneg eisiau i ni astudio fo ar gyfer asesiad rheoledig sydd yn agosáu, ac roedd hi’n ddigon lwcus i fod gyda recordiad o Dylan ei hun yn darllen y stori. Dim ond un byr ydyw, ond erbyn y diwedd roedd pawb yn y dosbarth yn gwenu ac yn ysbryd y Nadolig.
Y rhan goraf o’r stori gen i oedd y cathod. Roedd Dylan yn amlwg yn casáu cathod. Hyd yn oed yn y recordiad roeddet yn gallu clywed y ffieidd-dod yn ei lais am gathod, ac roedd y ffordd roedd yn disgrifio taflu peli eira arnynt yn wych, roedd pawb yn chwerthin.
Fe wnes i hefyd fwynhau’r rhan pan roedd yn disgrifio Diwrnod Nadolig a’r modrybedd a’r ewythredd gwahanol, roedd yn rhywbeth gallai pawb adnabod. Roedd y ffordd roedd yn eu disgrifio nhw yn syml, ond dwi’n meddwl ei fod mor effeithiol gan ei fod yn rhywbeth sydd ddim angen llawer o ddisgrifiad gan fod pawb efo fersiwn eu hunain o’r ewythr meddw, neu’r fodryb sydd ddim yn gallu coginio i achub ei bywyd.
Ar y cyfan mae’n stori fach hyfryd, a dwi’n meddwl dylai pawb ddarllen ef o gwmpas adeg y Nadolig. Mae Dylan Thomas yn awdur athrylith ac mae A Child’s Christmas In Wales yn profi hynny.
Mae Jess yn aelod o’r grŵp golygyddol Swoosh a’r grŵp golygyddol cenedlaethol CLIC. Gall weld Jess ar ein penwythnosau preswyl yn cymryd rhan mewn gwaith a chwarae tra’n stopio ei chwaer bach rhag dod yn zombie llawn.
Cyswllt i’r stori: A Child’s Christmas In Wales






